BATOD
The British Association of Teachers of the Deaf
Promoting Excellence in Deaf Education

BATOD Wales logo

BATOD WALES

Ers 1998 mae cyfrifoldeb am Addysg yng Nghymru wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn atebol yn uniongyrchol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, corff sy'n cynnwys 60 aelod wedi eu hethol pob pedair mlynedd yn ôl system “aelod ychwanegol”. Mae'r blaid Lafur wedi, ym mhob etholiad ers yr un gyntaf ym 1999, ennill y nifer fwyaf o seddi yn y Cynulliad ond heb ennill mwyafrif. Ar ddau achlysur mae hyn wedi arwain at glymblaid, unwaith gyda Plaid Cymru, ac unwaith gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Nid oes pwerau codi trethi gan y Llywodraeth, ac felly y mae yn ddibynnol ar rodd gan Lywodraeth San Steffan wedi ei chyfrifo yn ôl Fformiwla Barnet.

Gweinidog Addysg a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn 2014, yw Huw Lewis (Llafur).

Corff Arolygu addysg yng Nghymru yw “Estyn”. Rhaid i bob athro yng Nghymru gofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.

Hyd yn oed cyn datganoli roedd rhai agweddau addysg yng Nghymru yn wahanol i weddill y DU. Mae'n debyg, ers i'r ysgol gyntaf dderbyn arian o'r llywodraeth ym 1947, mai addysg gyfrwng Gymraeg yw'r gwahaniaeth fwyaf. Mae'n bosib i rieni yn rhan helaeth o'r wlad ddewis addysg i'w plant naill ai drwy Saesneg neu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Daw nifer fawr o'r plant o deuluoedd di-Gymraeg. Yn ôl adroddiad Ystadegau Cymru yn 2012 mae tua 24% o blant cynradd a 21% o blant uwchradd yn derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r canran wedi cynyddu yn gyson ers yn 1960au.

Yng Nghyfrifiad 2011 dywedodd tua 20% o boblogaeth Cymru eu bod yn medru siarad Cymraeg, er bod llai o lawer yn hyderus yn yr iaith ysgrifenedig. Mae gan y Gymraeg statws cyfreithiol hafal i'r Saesneg ar gyfer pob busnes llywodraethol.

Yn ysgolion cyfrwng-Gymraeg, addysgir y Gymraeg yn iaith cyntaf ar bwys Saesneg; Cymraeg yw iaith y dosbarth ac iaith yr iard. Mae ysgolion Saesneg yn dysgu Cymraeg fel ail iaith hyd at Blwyddyn 11.

Nid oes ysgolion Academi yng Nghymru. Mae ysgolion cynaliadwy (maintained schools) yn derbyn arian gan Lywodraeth Cymru drwy'r 22 Awdurdod Unedol sydd hefyd yn gyfrifol am ddarpariaeth AAA. Mae awdurdodau cymdogol yn aml yn gweithio gyda'u gilydd, ond mae darpariaeth AAA yn amrywio ar hyd y wlad. Argymhellodd arolwg yn 2013 y dylid lleihau nifer yr awdurdodau i rhwng 10 ac 13 ac fe fydd amser yn dangos sut y bydd hwn yn effeithio ar ysgolion.

Nid oes un Ysgol i'r Byddar yng Nghymru. Athrawon peripatetig sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r addysg, gyda rhai canolfannau adnoddau. Mae tua dwy ran o dair o boblogaeth Cymru yn byw yng nganolfanoedd trefol y de; Casnewydd, Caerdydd, Penybont ar Ogwr, Abertawe a'r cymoedd. Tenau yw poblogaeth gweddill y gwlad, yn arwain at broblemau teithio a chynnal.

Mae yna siapau ychwanegol bysillafu i alluogu sillafu Cymraeg i blant Gymraeg eu hiaith, neu sydd mewn ysgol cyfrwng Gymraeg.

Dysga ysgolion Cymru Gwricwlwn Cenedlaethol sy'n cynnwys Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth fel pynciau craidd. Cyflwynwyd y Cyfnod Sylfaenol – dull addysgol sy'n pwysleisio “dysgu trwy wneud” a chyfradd uchel athrawon i blant – i ddosbarthiadau Meithrin yn 2008. Mae nawr yn cael ei ddefnyddio trwy Cyfnod Allweddol 1. Ers 2013 mae pob dysgybl yn cael eu asesu yn flynyddol.

Mae canran disgyblion Cymru sydd â hawl i ginio ysgol am ddim llawer yn uwch na chanran gweddill y DU, ac y mae canlyniadau TGAU, level-A a Pisa yn is na'r DU cyfan. Mae rhai wedi beirniadu polisïau Llywodraeth Cymru, ond mae hyn yn duedd hanesyddol.