< Back to blog

August 2023 – A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?– ymchwiliad ac ymgynghoriad newydd | Do disabled children and young people have equal access to education and childcare? – new inquiry and consultation

Posted in News

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?– ymchwiliad ac ymgynghoriad newydd |
Do disabled children and young people have equal access to education and childcare? – new inquiry and consultation

 

Yn dilyn ein e-bost cynharach, mae’r Pwyllgor am glywed gan deuluoedd sydd â phrofiad byw.

 

Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion yn cynnal cyfweliadau teuluol â rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru i gael eu barn ar y cwestiwn: A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal i addysg a gofal plant?

 

Bydd y cyfweliadau yn ystyried gofynion pob teulu. Er enghraifft, gellir eu cynnal wyneb yn wyneb os yw hyn yn well. Gallwn gynnig cymorth gyda chyfieithu ar y pryd neu ddehongli. Rydym yn fodlon ystyried gofynion eraill i sicrhau ein bod yn lleihau unrhyw rwystrau i deuluoedd rhag cymryd rhan.

 

Bydd straeon a phrofiadau’n cael eu casglu, eu dadansoddi a’u hadlewyrchu mewn Nodyn Crynodeb dienw a fydd yn cael ei rannu ag Aelodau’r Pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad. Cesglir data yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu.

 

Os ydych yn adnabod teuluoedd a allai fod yn awyddus i gymryd rhan, cysylltwch â Catherine McKeag, Rheolwr Ymgysylltu â Dinasyddion ar [email protected] neu ffoniwch 0300 200 7583 i drafod hyn ymhellach.

 

 

Further to our earlier email, the Committee want to hear from families with lived experience.

 

To achieve this the Citizen Engagement Team will be conducting family interviews with parents, carers, children and young people from across Wales to capture their views on the question: Do disabled children and young people have equal access to education and childcare?

 

Interviews will be mindful of each family’s requirements. For example, they can be conducted face to face if this is preferable. We can offer support with interpretation. We are willing to consider other requirements to ensure we minimise any barriers for families taking part.

 

Stories and experiences will be collected, analysed and reflected in an anonymised Summary Note which will be shared with the Committee Members during the inquiry. Data will be collected in line with the Communications and Engagement Privacy Notice.

 

If you know families that may like to take part, please contact Catherine McKeag, Citizen Engagement Manager on [email protected] or telephone 0300 200 7583 to discuss this further.

 

Interviews will be conducted in August 2023.