< Back to blog

Children, Young People and Education Committee – one-off joint public scrutiny session of Qualifications Wales and the WJEC about the summer 2022 exam series

Posted in News

Please see below a request for feedback

“Dear colleagues,

On 21 September the Children, Young People and Education Committee will be carrying out a one-off joint public scrutiny session of Qualifications Wales and the WJEC about the summer 2022 exam series.

To support the Committee’s scrutiny of the exam series we are crowd-sourcing questions from the public and stakeholders to put to Qualifications Wales and the WJEC.

If you, or any young people you work with, wish to submit a question suggestion for Members please do so by replying to this email, phoning the clerking team using the contact details below, or responding to our Tweets (@SeneddChildren).

All the suggestions we receive will be forwarded to Committee members for them to draw on in their questioning.

We can’t guarantee that we will ask every question that is submitted to us. But this is an excellent opportunity to feed into scrutiny of two key bodies working to oversee and administer the examination system in Wales.

To find out more about our work on the 2022 exam series please visit the inquiry web pages.

We very much look forward to hearing from you.

The CYPE clerking team”

“Annwyl gyfeillion,

Ar 21 Medi, mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal sesiwn graffu gyhoeddus untro gyda Cymwysterau Cymru a CBAC ar y cyd i drafod cyfres arholiadau’r haf 2022.

I gefnogi gwaith y Pwyllgor wrth graffu ar y gyfres arholiadau, rydym yn gofyn i’r cyhoedd a rhanddeiliaid awgrymu cwestiynau i’w gofyn i Cymwysterau Cymru a CBAC.

Os hoffech chi, neu unrhyw bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw, awgrymu cwestiwn i’r Aelodau ei ofyn, gallwch wneud hynny drwy ateb yr e-bost hwn, ffonio’r tîm clercio gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod, neu ymateb i ni ar Twitter (@SeneddPlant).

Bydd yr holl awgrymiadau a gyflwynir yn cael eu hanfon ymlaen at aelodau’r Pwyllgor fel y gallant eu defnyddio ar gyfer eu cwestiynau.

Ni allwn addo y byddwn ni’n gofyn pob cwestiwn a gyflwynir. Ond mae hwn yn gyfle gwych i gyfrannu at y gwaith o graffu ar ddau gorff allweddol sy’n gweithio i oruchwylio a gweinyddu’r system arholiadau yng Nghymru.

I ddysgu rhagor am ein gwaith ar gyfres arholiadau 2022, ewch i dudalennau’r ymchwiliad ar y we.

Edrychwn ymlaen yn fawr at glywed gennych.

Tîm Clercio y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg”